Amdanom

Corff statudol a sefydlwyd dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 yw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Y Prif Ffeithiau

  • Tribiwnlys annibynnol a sefydlwyd dan Adran 65 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y’i diwygiwyd) yw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  • mae’r tribiwnlys wedi’i awdurdodi i ymdrin â cheisiadau a chyfeiriadau gan neu ar ran cleifion sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Iechyd Meddwl, ac sydd naill ai’n cael eu cadw mewn ysbyty yng Nghymru, sy’n glaf cymunedol yng Nghymru, neu sy’n glaf sy’n byw yng Nghymru
  • mae’r tribiwnlys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ond mae’r tribiwnlys, ei aelodau a’i benderfyniadau, yn annibynnol ar y llywodraeth; ac
  • mae dwy ran i’r tribiwnlys; yr ysgrifenyddiaeth ac aelodau’r tribiwnlys.  Mae’r ddwy’n gweithio gyda’i gilydd yn ystod y broses ymgeisio a chyfeirio, ond yn cyflawni tasgau gwahanol.  Rôl aelodau’r tribiwnlys yw adolygu ceisiadau a chyfeiriadau.  Rôl yr ysgrifenyddiaeth yw cyflawni dyletswyddau gweinyddol yn ymwneud â phrosesu ceisiadau a chyfeiriadau.