Penderfyniadau

Nid yw penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru’n cael eu cyhoeddi.

Efallai y bydd y tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad yn llafar yn y gwrandawiad, ond nid yw hynny’n digwydd bob tro. Bydd y tribiwnlys yn anfon hysbysiad at bob parti, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gwrandawiad penderfynu terfynol, gan egluro beth yw penderfyniad y tribiwnlys a rhoi rhesymau dros y penderfyniad.