Rheoliadau

Corff statudol a sefydlwyd dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 yw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth. Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru’n gwrando ceisiadau a chyfeiriadau sy’n ymwneud â chleifion sy’n cael eu cadw dan glo neu sydd â gorchmynion penodol sydd wedi’u gwneud dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ein swyddogaeth yw adolygu achosion cleifion sy’n cael eu cadw dan glo neu sy’n byw yn y gymuned dan orchymyn rhyddhad amodol, triniaeth gymunedol neu warcheidiaeth. 

Mae’r rheoliadau y mae’n rhaid i’r tribiwnlys gydymffurfio â hwy yn cael eu rhestru isod. Mae’r Cod Ymarfer y mae’n ofynnol i’r tribiwnlys roi sylw iddo hefyd yn cael ei restru isod:

Deddf Iechyd Meddwl 1983 PENNOD 20 
Ar gael i’w gweld ar-lein ac mewn ffurf brintiedig drwy’r wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y Deyrnas Unedig (dolen allanol).

Deddf Iechyd Meddwl 1983 ATODLEN 2 
Ar gael i’w gweld ar-lein ac mewn ffurf brintiedig drwy’r wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Deddf Iechyd Meddwl 2007 PENNOD 12
Ar gael i’w gweld ar-lein ac mewn ffurf brintiedig drwy’r wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Rheolau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru 2008 (2008 Rhif 2705)
Ar gael i’w gweld ar-lein ac mewn ffurf brintiedig drwy’r wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Deddf Iechyd Meddwl 1983, Cod Ymarfer Cymru

Ar gael i’w gweld ar-lein ac mewn ffurf brintiedig drwy wefan swyddogol GIG Cymru ar gyfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 (dolen allanol).