Rydym yn delio â materion sy’n ymwneud â:
Ceisiadau
Gall ceisiadau i adolygu achos gael eu gwneud gan glaf neu ar ran claf pan fydd unigolyn wedi ei awdurdodi gan yr ymgeisydd i wneud hynny.
Atgyfeiriadau
Gall achos claf gael ei atgyfeirio’n awtomatig i gael ei adolygu. Mae gan y sefydliad sy’n gyfrifol am y claf amryw o ddyletswyddau i atgyfeirio achosion i gael eu hadolygu. Mae amgylchiadau eraill hefyd lle gall achos gael ei atgyfeirio.
Perthynas agosaf
Gall perthynas agosaf claf sydd wedi’i gadw neu sydd dan orchymyn wneud cais mewn amgylchiadau penodol i gael adolygu eu hachos. Gall y berthynas agosaf hefyd fod yn bresennol yng ngwrandawiad y tribiwnlys.
Awdurdod Cyfrifol
Yr awdurdod cyfrifol yw’r sefydliad neu unigolyn sy’n gyfrifol am glaf sy’n cael ei gadw neu sydd dan orchymyn a wnaethpwyd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae dyletswyddau cyfreithiol penodol ar yr awdurdod cyfrifol o ran cleifion a’u hawl i gael adolygu eu hachos gan TAIM Cymru.
Ein cefndir
Corff statudol annibynnol a sefydlwyd dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 yw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae’r tribiwnlys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ond mae’r tribiwnlys, ei aelodau a’i benderfyniadau, yn annibynnol ar y llywodraeth.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.