Bet sy’n digwydd mewn gwrandawiad tribiwnlys?
Bydd y tribiwnlys yn egluro’r weithdrefn ar ddechrau’r gwrandawiad. Yn y gwrandawiad, bydd gan banel y Tribiwnlys a’ch cynrychiolydd cyfreithiol gyfle i ofyn cwestiynau i’ch tîm gofal a bydd fel arfer am siarad â chi hefyd. Nid oes rhaid ichi siarad â’r Tribiwnlys os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Os hoffech adael y gwrandawiad ar unrhyw adeg, dywedwch wrth eich cynrychiolydd cyfreithiol neu rhowch wybod i banel y Tribiwnlys.
Pan fydd aelodau’r Tribiwnlys wedi gorffen gofyn cwestiynau, byddant yn gofyn i bawb adael tra byddant yn gwneud eu penderfyniad. Fel arfer, byddant yn dweud wrthych beth yw eu penderfyniad y diwrnod hwnnw. Bydd copi o’r penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei anfon atoch neu eich cynrychiolydd cyfreithiol yn fuan ar ôl y gwrandawiad.
Weithiau ni fydd y Tribiwnlys yn gallu dod i benderfyniad, er enghraifft oherwydd nad oes ganddo ddigon o wybodaeth. Yn yr achos hwn, bydd y gwrandawiad yn cael ei ohirio a bydd dyddiad ac amser newydd ar gyfer y gwrandawiad yn cael eu trefnu. Gweler llyfryn canllaw MHRTW-07 i gael rhagor o wybodaeth.
Ble y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal?
Cynhelir y gwrandawiad fel arfer yn yr ysbyty yr ydych yn cael eich cadw ynddo.
Pwy fydd yng ngwrandawiad y tribiwnlys?
Bydd tri o bobl ar banel y Tribiwnlys, a elwir yn aelodau Cyfreithiol, Meddygol a Lleyg. Maent yn annibynnol ar eich meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs seiciatrig cymunedol (NSC), neu’r ysbyty os ydych yn cael eich cadw yno; bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un, eich meddyg (seiciatrydd), eich gweithiwr cymdeithasol a/neu eich nyrs seiciatrig cymunedol hefyd yn eich gwrandawiad. Os ydych yn yr ysbyty, bydd nyrs yn bresennol fel arfer. Os ydych wedi dweud wrthym y gall gael ei wahodd, gall eich Perthynas Agosaf fod yno hefyd.
Mae’r gwrandawiad amdanaf fi; a allaf ddod â rhywun gyda mi i’r gwrandawiad i’m cefnogi?
Gallwch. Oni bai bod y tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, gall pwy bynnag arall a ddymunwch fod yno gyda chi, ond rhaid ichi roi gwybod i’r tribiwnlys am unrhyw un a fydd yn dod i’ch cefnogi, a hynny drwy gwblhau ffurflen MHRTW-02. Ni fydd y tribiwnlys yn talu ei dreuliau teithio ac ni all fod yn gynrychiolydd ichi.
Beth yw arsylwyr?
Proffesiynolion iechyd meddwl fel meddygon neu weithwyr cymdeithasol sy’n dysgu am Dribiwnlysoedd yw’r arsylwyr fel arfer. Nid oes rhaid ichi adael i arsylwr fod yn eich gwrandawiad os nad ydych am i un fod yno; dywedwch wrth eich Cynrychiolydd Cyfreithiol, eich eiriolwr (EIMA), neu banel y Tribiwnlys.
Beth yw gohiriad (postponement)?
Os bydd gwrandawiad Tribiwnlys yn cael ei ohirio, bydd yn cael ei gynnal ar ddyddiad diweddarach na’r un a gynlluniwyd yn wreiddiol.
Beth yw gohiriad (adjournment)?
Caiff gwrandawiad ei ohirio os yw wedi cychwyn, ond yn dod i ben cyn iddo gwblhau. Bydd dyddiad newydd yn cael ei bennu i gynnal gweddill y gwrandawiad.
A fydd y tribiwnlys yn cwblhau archwiliad meddygol cyn y gwrandawiad? Pwy sy’n ymgymryd â’r archwiliad meddygol, a beth sy’n digwydd?
Bydd, bydd aelod meddygol y Tribiwnlys yn trefnu eich gweld yn breifat cyn y gwrandawiad. Bydd yn gofyn am eich symptomau a sut rydych yn teimlo, ac yn llunio safbwynt am eich iechyd meddwl presennol ac unrhyw faterion perthnasol eraill y bydd wedyn yn eu datgelu i aelodau eraill y Tribiwnlys cyn i’r gwrandawiad gychwyn. Bydd hefyd yn edrych ar eich nodiadau o’r ysbyty a gall siarad ag aelodau’r tîm sy’n gofalu amdanoch.
Nid oes rhaid ichi gwrdd â’r aelod meddygol ond mae o gymorth i’r Tribiwnlys gael y safbwynt rhagarweiniol hwn cyn i’r gwrandawiad gychwyn.
A allaf rwystro gwrandawiad y tribiwnlys rhag cael ei gynnal?
Gallwch. Os ydych wedi gwneud cais i’r Tribiwnlys, gallwch ofyn am gael tynnu’ch cais yn ôl. Gweler llyfryn canllaw MHRTW-06 i gael rhagor o wybodaeth am dynnu cais yn ôl.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael fy rhyddhau cyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal?
Gall y Tribiwnlys ddim ond ystyried yr Adran neu’r Gorchymyn yr ydych yn ddarostyngedig iddi/iddo ar hyn o bryd. Os bydd eich Clinigwr Cyfrifol yn rhyddhau’r Adran neu’r Gorchymyn, caiff gwrandawiad y Tribiwnlys ei ganslo.