Awdurdod Cyfrifol

Yr awdurdod cyfrifol yw’r sefydliad neu unigolyn sy’n gyfrifol am glaf sy’n cael ei gadw neu sydd dan orchmynion penodol a wneir o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Yr awdurdod cyfrifol fel arfer yw’r bwrdd iechyd lleol neu reolwyr yr ysbyty cyfrifol neu wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Mae gan yr awdurdod cyfrifol ddyletswyddau penodol o ran y cleifion hyn a’u hawl i wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i gael adolygu eu hachos, gan gynnwys:

  • Ceisiadau: sicrhau bod cleifion yn gwybod am ac yn deall eu hawl i wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i gael adolygu eu hachos.
  • Atgyfeiriadau: sicrhau bod y ddyletswydd ar yr awdurdod cyfrifol i atgyfeirio achosion at Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i gael eu hadolygu yn cael ei chyflawni neu fod y ddyletswydd i ofyn i’r gweinidogion perthnasol yn y llywodraeth i atgyfeirio achos yn cael ei chyflawni.

Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy sy’n wneud yr atgyfeiriad, yr amgylchiadau pan fydd yn rhaid atgyfeirio a gweithdrefnau’r tribiwnlys (Llyfryn Canllaw MHRTW - 07).

  • Darparu datganiadau ac adroddiadau: pan wneir cais neu atgyfeiriad i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, i sicrhau bod y ddyletswydd ar yr awdurdod cyfrifol i ddarparu gwybodaeth benodol i’r tribiwnlys – datganiad o ffeithiau perthnasol ac adroddiadau clinigol fel arfer – wedi’i chyflawni.

Mae ein llyfrynnau canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ba wybodaeth ac adroddiadau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu, y cynnwys rhagnodedig a diwyg yr adroddiad (Llyfryn Canllaw MHRTW – 10 a Llyfryn Canllaw MHRTW - 11).

Gellir lawrlwytho ein llyfrynnau canllaw isod. Os ydych chi’n cael problemau wrth geisio lawrlwytho unrhyw canllaw, neu os hoffech chi eu cael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.