Canllawiau a ffurflenni

Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn gwrando ar geisiadau ac atgyfeiriadau gan gleifion sy’n dod o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Ein swyddogaeth yw adolygu achosion cleifion sy’n cael eu cadw mewn ysbyty neu sy’n byw yn y gymuned dan ryddhad amodol, triniaeth yn y gymuned neu orchymyn gwarcheidiaeth er mwyn penderfynu a yw’r gofynion cyfreithiol yn cael eu cyflawni.

Mae gwybodaeth am wneud cais, yr hyn sy’n digwydd pan wneir atgyfeiriad a hawliau perthynas agosaf y claf ar gael yn ein llyfrynnau canllaw. Gellir lawrlwytho llyfrynnau canllaw a ffurflenni cais o’r wefan neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni. 

Ceisiadau

Gall ceisiadau i adolygu achos gael eu gwneud gan glaf neu ar ran claf pan fydd unigolyn wedi ei awdurdodi gan yr ymgeisydd i wneud hynny.

Atgyfeiriadau

Gall achos claf gael ei atgyfeirio’n awtomatig i gael ei adolygu. Mae gan y sefydliad sy’n gyfrifol am y claf amryw o ddyletswyddau i atgyfeirio achosion i gael eu hadolygu. Mae amgylchiadau eraill hefyd lle gall achos gael ei atgyfeirio.

Perthynas agosaf

Gall perthynas agosaf claf sydd wedi’i gadw neu sydd dan orchymyn wneud cais mewn amgylchiadau penodol i gael adolygu eu hachos. Gall y berthynas agosaf hefyd fod yn bresennol yn y gwrandawiad tribiwnlys. 

Gellir lawrlwytho llyfrynnau canllaw am yr hyn i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad tribiwnlys a gwybodaeth ar gyfer yr awdurdod cyfrifol hefyd o’r wefan hon.

Efallai y bydd y dudalen eirfa a chwestiynau cyffredin ar ein gwefan hefyd yn ddefnyddiol.