Perthynas agosaf

Mae perthynas agosaf yn unigolyn sydd â hawliau a phwerau penodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl o ran y claf maent yn berthynas agosaf iddo. Yn aml, perthynas agosaf claf yw aelod o’r teulu agos neu bartner.

Os ydych chi’n berthynas agosaf claf sy’n cael ei gadw neu o dan orchmynion penodol a wnaethpwyd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl efallai y gallwch wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i adolygu achos y claf.

Efallai y gall y berthynas agosaf hefyd fod yn bresennol yng ngwrandawiad y tribiwnlys.

  • Ceisiadau gan berthynas agosaf y claf: mewn rhai amgylchiadau gall ceisiadau i adolygu achos gael eu gwneud gan berthynas agosaf y claf. Ewch i (Ffurflen Gais MHRTW - 02).

Mae ein llyfrynnau canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am:

  • Sut i wneud cais, pwy all wneud cais, y terfynau amser ar gyfer gwneud cais, y terfynau amser ar gyfer gwneud cais a gweithdrefnau’r tribiwnlys. Ewch i (Llyfryn Canllaw MHRTW - 06)

Gellir lawrlwytho ein ffurflen gais a’n llyfrynnau canllaw isod. Os ydych chi’n cael problemau wrth geisio lawrlwytho’r ffurflenni neu’r canllawiau, neu os hoffech chi eu cael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.