Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn adolygu cadw cleifion cyfyngedig yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n briodol, a bod y cyhoedd yn parhau i fod yn ddiogel.
Fel dioddefwr neu aelod o'r teulu mewn profedigaeth sydd wedi optio i mewn i'r Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr, mae gennych yr hawl i gael eich hysbysu am yr adolygiadau hyn a chael cyfle i gymryd rhan.
Gallwch hefyd gyflwyno Datganiad Effaith Dioddefwr i esbonio effaith y drosedd arnoch chi, y gall y Tribiwnlys ei ystyried wrth osod amodau rhyddhau. Bydd eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn eich cefnogi drwy gydol y broses hon.
Mae ein llyfrynnau canllawiau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am sut i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys, pwy all wneud hyn, y terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys.
Gellir lawrlwytho ein ffurflen gais a'n llyfrynnau canllawiau isod. Os ydych chi'n cael problemau i lawrlwytho unrhyw un o'r ffurflenni neu'r canllawiau neu os hoffech eu bod mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.