Atgyfeiriadau

Gall achos claf gael ei atgyfeirio’n awtomatig i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Gall hyn ddigwydd am fod gan y sefydliad sy’n gyfrifol am y claf amryw o ddyletswyddau cyfreithiol i atgyfeirio achosion i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i gael eu hadolygu. Mae amgylchiadau eraill hefyd lle gall achos gael ei atgyfeirio.

  • Atgyfeiriadau: gall achos claf gael ei atgyfeirio’n awtomatig i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i gael ei adolygu.  
    Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy sy’n gwneud yr atgyfeiriad, yr amgylchiadau pan fydd yn rhaid atgyfeirio, a gweithdrefnau’r tribiwnlys. (Llyfryn Canllaw MHRTW - 07)

Gellir lawrlwytho ein llyfryn canllaw isod. Os ydych chi’n cael problemau wrth geisio lawrlwytho unrhyw ganllawiau, neu os hoffech chi eu cael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.