Dylech dderbyn gwybodaeth gan yr Ysbyty am unrhyw gyngor a chynrychiolaeth sydd ar gael am ddim yn eich hardal.
Gall cyfreithiwr iechyd meddwl achrededig eich cynrychioli mewn tribiwnlys heb unrhyw gost i'r chi.
I gefnogi hyn, mae'r rhestr isod wedi'i llunio a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gan y Tribiwnlys. Mae hyn yn cynnwys enwau a manylion cyswllt cyfreithwyr achrededig, a’r ardaloedd y maent yn gweithio ynddynt.
Gall y Tribiwnlys hefyd benodi cyfreithiwr ar eich cyfer os ystyrir nad oes gennych y gallu i wneud hynny eich hun, a'i fod yn credu y byddai’n fuddiol i chi gael eich cynrychioli.