Apelio yn erbyn Penderfyniad

Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru am ganiatâd i apelio ar bwynt cyfreithiol i’r Uwch Dribiwnlys, a’r cyfyngiadau amser ar gyfer gwneud hynny, i’w gweld yn ein llyfryn canllaw.

  • Cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru am ganiatâd i apelio. Os ydych yn credu bod penderfyniad y tribiwnlys yn anghywir o safbwynt cyfreithiol, ewch i (Ffurflen Gais MHRTW - 05)
  • Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru am ganiatâd i apelio, a’r cyfyngiadau amser ar gyfer gwneud hynny, i’w gweld yn ein llyfryn arweiniad (Llyfryn Canllaw MHRTW - 14).

Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i gyflwyno apêl i’r Uwch Dribiwnlys, a’r cyfyngiadau amser ar gyfer gwneud hynny, i’w gweld ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) neu gallwch gysylltu â GLlTEM.  Mae cyfeiriad y wefan a’r manylion ar gyfer cysylltu â GLlTEM i’w gweld isod.

Upper Tribunal
5th Floor Rolls Building
7 Rolls Buildings,
Fetter Lane
Llundain EC4A 1NL

Ffôn: 020 7071 5662
Ffacs: 08703240028
Typetalk: 18001 020 7071 5662
DX 160042 STRAND 4

Ebost: adminappeals@hmcts.gsi.gov.uk 
Gwefan: www.justice.gov.uk     

Gallwch lawrlwytho ein ffurflenni cais a’n llyfrynnau canllaw isod. Os ydych yn cael problem wrth lawrlwytho unrhyw ffurflen neu canllaw, neu os hoffech eu cael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.