Hysbysiad preifatrwydd

Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut byddwn yn prosesu eich data personol.

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn byw y gellir ei defnyddio i ddweud pwy ydyw, er enghraifft, ei enw, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad e-bost neu ei gymwysterau. Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (y Tribiwnlys) a Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli eich data personol.

Pam ydych chi’n prosesu fy ngwybodaeth bersonol?

Wrth gyfeirio at brosesu, rydym yn golygu unrhyw beth a wneir â’ch data personol, fel eu casglu, eu storio, eu haddasu neu eu dinistrio. Mae gwneud nodiadau yn ystod gwrandawiad tribiwnlys neu gyhoeddi penderfyniad y Tribiwnlys yn enghreifftiau o brosesu. Rydym yn prosesu eich data personol oherwydd bod hynny’n angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd. Felly mae hyn yn unol ag Erthygl 6(e) y GDPR.

Mae hyn yn hanfodol oherwydd mae’n rhaid i’r Tribiwnlys brosesu eich data er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn unol â’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)
  • Deddf Iechyd Meddwl 2007 (p. 12)
  • Rheolau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru 2008 (O.S. 2008/2705)

 

Pa gategorïau o ddata personol ydych chi’n eu prosesu?

O’r rhestr o gategorïau arbennig o ddata sy’n cael eu rhestru yn Erthygl 9(1) y GDPR, bydd y Tribiwnlys yn prosesu data am iechyd a hil a tharddiad ethnig ym mhob achos. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai unrhyw rai o’r categorïau arbennig eraill o ddata personol gael eu cynnwys mewn unrhyw achos. Mae categorïau arbennig eraill o ddata personol yn cynnwys gwybodaeth am gredoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data ynghylch genynnau neu ddata biometrig at ddibenion adnabod bod dynol, neu ddata ynghylch bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol bod dynol.

Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol er mwyn sefydlu, er mwyn arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y bydd y llysoedd yn arfer eu gwaith barnwrol yn unol ag Erthygl 9(2) y GDPR y bydd y Tribiwnlys yn prosesu data categori arbennig.

O ble ydych chi’n cael data personol amdanaf?

Gall y Tribiwnlys gael eich data personol o’r ffynonellau canlynol:

  • gallwch ddarparu eich data eich hun i’r Tribiwnlys (drwy gyfrwng llythyrau apêl, negeseuon e-bost, sylwadau eraill neu ar lafar dros y ffôn neu mewn gwrandawiadau Tribiwnlys)
  • awdurdodau lleol (ee swyddogion iechyd meddwl, sy’n gallu cyflwyno ceisiadau a sylwadau i’r Tribiwnlys)
  • y GIG (ee swyddogion meddygol cyfrifol sy’n gallu cyflwyno ceisiadau a sylwadau i’r Tribiwnlys)
  • gweithwyr cyfreithiol proffesiynol (gall y rhain fod yn gynrychiolwyr cyfreithiol rydych chi wedi’u penodi i weithredu ar eich rhan, sy’n gallu cyflwyno llythyrau apêl neu sylwadau eraill ar eich rhan)
  • gwasanaethau eirioli (drwy gyfrwng adroddiadau neu ddatganiadau)
  • y Weinyddiaeth Gyfiawnder (a’i asiantaethau)
  • Gweinidogion Cymru (a all gyfeirio i’r Tribiwnlys)

 

Ydych chi’n rhannu fy nata personol ag unrhyw un arall?

Er mwyn caniatáu i’r Tribiwnlys gyflawni ei ddyletswyddau yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gall y Tribiwnlys rannu eich data â’r sefydliadau/bobl ganlynol:

  • awdurdodau lleol (ee swyddogion iechyd meddwl)
  • y GIG (ee swyddogion meddygol cyfrifol)
  • gweithwyr cyfreithiol proffesiynol (gall y rhain fod yn gynrychiolwyr cyfreithiol rydych chi wedi’u penodi i weithredu ar eich rhan)
  • gwasanaethau eirioli
  • y Weinyddiaeth Gyfiawnder (a’i asiantaethau)
  • Gweinidogion Cymru

 

Ydych chi’n trosglwyddo fy nata personol i wledydd eraill?

Dim ond pan na fyddai unigolyn a enwir yn byw yn y Deyrnas Unedig y byddai’r Tribiwnlys yn trosglwyddo data i wledydd eraill. Mewn achosion o’r fath, byddai papurau’r achos yn cael eu hanfon at yr unigolyn a enwir drwy gyfrwng Post Safonol Rhyngwladol Grŵp y Post Brenhinol Cyf neu drwy e-bost diogel.

Pa mor hir ydych chi'n cadw fy nata personol?

Byddwn yn cadw eich data am hyd at chwe blynedd, yn unol â’n Hamserlen Cadw a Gwaredu. 

Pa hawliau sydd gennyf?

  • Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad bod eich data’n cael eu prosesu a hawl i gael gafael ar eich data personol
  • Mae gennych hawl i gael cywiro eich data personol os yw’r data yn anghywir neu’n anghyflawn
  • Mae gennych hawl i gael dileu data personol ac atal prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i ‘rwystro’ neu atal data personol rhag cael eu prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i gludadwyedd data mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ran ohono, cysylltwch â ni yn: TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru

Rheolydd Data

Swyddfa’r Llywydd
Tribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru
Llawr Gwaelod, Ystafell 0.25
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: MHRT@llyw.cymru 
 
Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd
Llywodraeth Cymru 
2il Lawr, Adain y De
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Sut mae modd i mi gwyno os nad ydw i’n fodlon?

Os nad ydych chi’n fodlon ag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu â sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cwyn drwy gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
 
Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk 
Gwefan: https://ico.org.uk/global/contact-us/