Yr Ysgrifenyddiaeth
Yr ysgrifenyddiaeth yw swyddfa’r tribiwnlys ac mae’n gyfrifol am weinyddiaeth y tribiwnlys. Mae’r ysgrifenyddiaeth:
- Yn ymdrin â’r galwadau ffôn a’r ymholiadau ysgrifenedig
- yn prosesu ceisiadau a chyfeiriadau
- yn pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiadau tribiwnlysoedd
- yn sicrhau bod gwybodaeth glir yn cael ei rhoi ynglŷn â phryd a ble y cynhelir y gwrandawiad.
Cysylltwch â ni os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ar y wefan hon neu os nad ydych yn deall rhywbeth.
Yr Aelodau
Mae gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru lywydd ac mae’n gyfrifol am yr aelodau ac am benderfyniadau’r tribiwnlys. Mae gan y tribiwnlys hefyd aelodau cyfreithiol sy’n gyfreithwyr, aelodau meddygol sy’n seiciatryddion, ac aelodau lleyg sydd â phrofiad o faterion iechyd meddwl fel arfer. Mae aelodau’r tribiwnlys yn cael eu penodi gan yr Arglwydd Ganghellor.
Fel arfer bydd tri aelod tribiwnlys yn bresennol mewn gwrandawiad tribiwnlys; aelod cyfreithiol, aelod meddygol ac aelod lleyg. Bydd gwrandawiadau tribiwnlys yn cael eu rheoli gan lywydd y tribiwnlys neu aelod cyfreithiol. Rôl llywydd y tribiwnlys neu’r aelod cyfreithiol yw ysgrifennu penderfyniadau’r tribiwnlys, gwneud cyfarwyddiadau a rhoi gwybod am ohiriadau os oes angen.