Newyddion

Cewch weld y newyddion diweddaraf gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yma.

Penodi Llywydd newydd TAIM Cymru

Mae'r Barnwr Jane McConnell wedi cael ei phenodi yn Llywydd TAIM Cymru, ac fe gychwynnodd yn ei rôl ar  01/10/2025.

Bu’r Barnwr McConnell yn Farnwr Arweiniol yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd am y 10 mlynedd ddiwethaf ers Mehefin 2015. Yn fwyaf diweddar, bu’n Ddirprwy Lywydd Siambr dros dro. Mae’n parhau yn Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru, rôl y cafodd ei phenodi iddi ym Mehefin 2023.

Cafodd y Barnwr McConnell ei galw i’r bar yn Lincoln's Inn yn 2006, a chyn hynny, bu’n Brif Weithredwr elusen IPSEA. Yn Hydref 2015 derbyniodd MBE am ei gwasanaethau i addysg.