Ceisiadau

Os ydych yn cael eich cadw neu o dan orchmynion penodol a wnaethpwyd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl efallai y bydd modd i chi wneud cais i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i adolygu’r mater.

Rhaid gwneud cais ysgrifenedig a’i gyflwyno i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

  • Ceisiadau gan y claf: gall ceisiadau i adolygu achos gael eu gwneud gan y claf neu ar ran claf pan fydd unigolyn wedi cael ei awdurdodi gan yr ymgeisydd i wneud hynny, ewch i (Ffurflen Gais MHRTW - 01)
  • Ceisiadau gan berthynas agosaf y claf: mewn rhai amgylchiadau gall perthynas agosaf y claf wneud cais i adolygu achos. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar y dudalen perthynas agosaf ar ein gwefan, ewch i (Ffurflen Gais MHRTW - 02)

Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am sut i wneud cais, pwy all wneud cais, y terfynau amser ar gyfer gwneud cais a gweithdrefnau’r tribiwnlys. (Llyfryn Canllaw MHRTW - 06)

Gellir lawrlwytho ein ffurflenni cais a’n canllawiau isod. Os ydych chi’n cael problemau wrth geisio lawrlwytho’r ffurflenni neu’r canllawiau, neu os hoffech chi eu cael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.